<< Back

This job listing is no longer active.
Please use our Environment Jobs Search to find current vacancies.

Title  

Natur am Byth! Job Vacancies

Reference     (Please mention Stopdodo/Environment Jobs in your application)
Sectors   Conservation & Ecology
Location   Wales (North) - UK, Wales (East) - UK, Wales (West) - UK, Wales (South) - UK
Type   Fixed Term and Permanent Roles
Status   Full Time
Level   Mid Level
Company Name  
Contact Name  
Also Listing:
Description  

The Natur am Byth partnership is now recruiting for 7 new posts in Wales, start date 4th December 2023

Mae partneriaeth Natur am Byth nawr yn recriwtio ar gyfer 7 swydd newydd yng Nghymru, i gychwyn ar 4 Rhagfyr 2023

Natur am Byth is Wales’ flagship species recovery programme uniting nine environmental NGOs with NRW in the largest ever partnership of its kind in Wales. Both the people and nature of Wales are facing unprecedented crises; giving a unique opportunity to aid recovery with innovative, transformative solutions. With a little over half of plants and animals remaining and 17% of species in Wales threatened with extinction, Wales is one of the most nature depleted countries in the world.

Natur am Byth is a legally constituted collaboration co-ordinated by Natural Resources Wales (NRW) in partnership with Amphibian & Reptile Conservation; Bat Conservation Trust; Buglife; Bumblebee Conservation Trust; Butterfly Conservation; Plantlife; Marine Conservation Society; RSPB Cymru; and Vincent Wildlife Trust.

For further details about the programme and partnership, visit: https://www.mcsuk.org/documents/1341/Natur_am_Byth_-_Programme_Briefing_delivery_phase_ENGLISH_rRZzFWR.pdf

Natur am Byth yw prosiect adfer rhywogaethau blaenllaw Cymru sy’n uno naw corff anllywodraethol amgylcheddol ag CNC yn y bartneriaeth fwyaf erioed o’i math yng Nghymru. Mae pobl a natur Cymru'n wynebu argyfyngau digynsail, gan roi cyfle unigryw i gynorthwyo adferiad gyda datrysiadau arloesol a thrawsnewidiol. Gydag ychydig dros hanner ei phlanhigion a’i hanifeiliaid ar ôl ac 17% o rywogaethau Cymru dan fygythiad o ddiflannu, Cymru yw un o’r gwledydd yn y byd lle mae byd natur wedi'i ddisbyddu fwyaf.

Mae Natur am Byth yn gydweithrediad â chyfansoddiad cyfreithiol a gydlynir gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) mewn partneriaeth â'r Gadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid, yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ystlumod, Buglife, yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Cacwn, y Gadwraeth Glöynnod Byw, Plantlife, y Gymdeithas Cadwraeth Forol, y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB), ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Vincent.

I gael rhagor o fanylion am y rhaglen a’r bartneriaeth, ewch i: https://www.mcsuk.org/documents/1342/Natur_am_Byth_-_Programme_Briefing_delivery_phase_Cymraeg.pdf

 

Swansea Bay: Coast, Commons and Communities Senior Project Officer (Buglife hosted)

Salary: £31,223 (pro rata at 0.6 FTE £18,734)

Hours: Fixed term part-time post, 22.5 hours per week for 3 years 6 months

Location: Hybrid working – home plus Buglife office in Cardiff and NRW office locations in south Wales

Closing date: 25th September; interviews likely week commencing 9th October

The Senior Project Officer will be responsible for co-ordinating and successfully delivering the Swansea Bay: Coast, Commons and Communities project. This will include project and budgetary planning and management, reporting on project progress and delivery, relationship management and external communications. Other key responsibilities include working in partnership with experts, land managers, consultants and contractors and attending Steering Group meetings. The postholder will directly line manage the Buglife hosted project officer and Natur am Byth Trainee, and will provide day to day support for the ARC hosted Swansea Bay Project Officer, as necessary. To find out more information about this post visit Buglife’s website https://www.buglife.org.uk/job/swansea-bay-coast-commons-and-communities-senior-project-officer

 

Uwch Swyddog Prosiect Bae Abertawe: Arfordir, Tir Comin a Chymunedau (dan ofal Buglife)

Cyflog: (yn cynnwys Pensiwn ac Yswiriant Gwladol): £35,468. Oriau pro rata – 0.6 FTE

Lleoliad: Gweithio hybrid – gartref a hefyd yn swyddfa Buglife yng Nghaerdydd a lleoliadau swyddfeydd CNC yn ne Cymru

Dyddiad cau: 25 Medi; cyfweliadau yn debygol yn yr wythnos yn dechrau 9 Hydref

Bydd yr Uwch Swyddog Prosiect yn gyfrifol am gydlynu a chyflawni prosiect Bae Abertawe: Arfordir, Tir Comin a Chymunedau yn llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys cynllunio a rheoli’r prosiect a’r gyllideb, adrodd ar gynnydd a chyflawniad y prosiect, rheoli perthnasoedd a chyfathrebu allanol. Ymysg y cyfrifoldebau allweddol eraill mae gweithio mewn partneriaeth ag arbenigwyr, rheolwyr tir, ymgynghorwyr a chontractwyr a mynychu cyfarfodydd y Grwp Llywio. Bydd deiliad y swydd yn rheoli’n uniongyrchol y swyddog prosiect dan ofal Buglife a’r Hyfforddai Natur am Byth, a bydd yn cynnig cefnogaeth dydd i ddydd i Swyddog Prosiect Bae Abertawe sydd dan ofal Cadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid (ARC), yn ôl yr angen. I gael rhagor o wybodaeth am y swydd hon ewch i wefan Buglife https://www.buglife.org.uk/job/swansea-bay-coast-commons-and-communities-senior-project-officer

 

Swansea Bay: Coast, Commons and Communities Project Officer (Buglife hosted)

Salary: (incl. Pension and NI): £30,086. Hours – full time

Location: Hybrid working – home plus Buglife office in Cardiff and NRW office locations in south Wales

Closing date: 25th September; interviews likely week commencing 9th October

The Swansea Bay: Coast, Commons and Communities Project Officer will be responsible for co-ordinating habitat management works for a range of taxa, organising and overseeing species surveys and leading volunteer work-parties. Engagement is integral to the successful delivery of the project and the Project Officer will work closely with local communities to make positive changes for people and wildlife. The post holder will report to the Swansea Bay Senior Project Officer and work closely with the Amphibian and Reptile Conservation hosted Swansea Bay Project Officer and the Swansea Bay Stars of the Night Project Officer. To find out more information about this post visit Buglife’s website https://www.buglife.org.uk/job/swansea-bay-coast-commons-and-communities-project-officer

 

Swyddog Prosiect Bae Abertawe: Arfordir, Tir Comin a Chymunedau (dan ofal Buglife)

Cyflog: (yn cynnwys Pensiwn ac Yswiriant Gwladol): £30,086. Oriau – llawn amser

Lleoliad: Gweithio hybrid – gartref a hefyd yn swyddfa Buglife yng Nghaerdydd a lleoliadau swyddfeydd CNC yn ne Cymru

Dyddiad cau: 25 Medi; cyfweliadau yn debygol yn yr wythnos yn dechrau 9 Hydref

Bydd Swyddog Prosiect Bae Abertawe: Arfordir, Tir Comin a Chymunedau yn gyfrifol am gydlynu gwaith rheoli cynefinoedd ar gyfer amrywiaeth o dacsonau, trefnu a goruchwylio arolygon rhywogaethau ac arwain grwpiau gwaith gwirfoddol. Mae ymgysylltu’n hanfodol i gyflawni’r prosiect yn llwyddiannus a bydd y Swyddog Prosiect yn gweithio’n agos gyda chymunedau lleol i wneud newidiadau cadarnhaol i bobl a bywyd gwyllt. Bydd deiliad y swydd yn adrodd i Uwch Swyddog Prosiect Bae Abertawe ac yn gweithio’n agos gyda Swyddog Prosiect Bae Abertawe a Swyddog Prosiect Sêr y Nos Bae Abertawe dan ofal Cadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid. I gael rhagor o wybodaeth am y swydd hon ewch i wefan Buglife https://www.buglife.org.uk/job/swansea-bay-coast-commons-and-communities-project-officer

 

Adder Action + Swansea Bay: Coast, Commons and Communities Project Officer (Amphibian and Reptile Conservation hosted)

Salary: (incl. Pension and NI): Starting at ca. £24,500. Hours – full time (0.2 FTE Adder Action; 0.8 FTE Swansea Bay)

Location: hybrid working – home plus NRW office locations in south Wales

Closing date: 25th September; interviews likely week commencing 9th October

The ARC Project Officer will work closely with other project partner staff in south Wales to implement the Swansea Bay: Coast, Commons and Communities project, with specific responsibility for Adder Action across the Natur am Byth partnership. The role will involve recruiting, engaging, training and mentoring volunteers, and delivering habitat management for a range of species in Swansea Bay, as well as advising on adder habitat management across other Natur am Byth projects. To find out more about this post, visit: https://www.arc-trust.org/vacancies                

 

Swyddog Prosiect Gweithredu dros Wiberod a Bae Abertawe: Arfordir, Tir Comin a Chymunedau (dan ofal Cadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid)

Cyflog: (yn cynnwys Pensiwn ac Yswiriant Gwladol): Dechrau ar tua £24,500. Oriau – llawn amser (0.2 FTE Gweithredu dros Wiberod; 0.8 FTE Bae Abertawe)

Lleoliad: gweithio hybrid – gartref a hefyd yn lleoliadau swyddfeydd CNC yn ne Cymru

Dyddiad cau: 25 Medi; cyfweliadau yn debygol yn yr wythnos yn dechrau 9 Hydref

Bydd y Swyddog Prosiect dan ofal Cadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid (ARC) yn gweithio’n agos gyda staff partneriaid eraill y prosiect yn ne Cymru i weithredu prosiect Bae Abertawe: Arfordir, Tir Comin a Chymunedau, gyda chyfrifoldeb penodol dros y prosiect Gweithredu dros Wiberod ar draws partneriaeth Natur am Byth. Bydd y rôl yn cynnwys recriwtio, ymgysylltu, hyfforddi a mentora gwirfoddolwyr, a chyflawni gwaith rheoli cynefinoedd ar gyfer amrywiaeth o rywogaethau ym Mae Abertawe, yn ogystal â chynghori ar waith rheoli cynefinoedd i wiberod ar draws prosiectau eraill Natur am Byth. I gael gwybod mwy am y swydd hon, ewch i: https://www.arc-trust.org/vacancies

 

Swansea Bay’s Stars of the Night Project Officer (Bat Conservation Trust hosted)

Salary: (incl. Pension and NI): £25,500 - £27,500 (this equates to £15,300 - £16,500 at 0.6 FTE).

Hours: part time post of 22.5 hours/week excluding one hour for lunch at 0.6FTE

Location: hybrid working – home plus NRW office locations in south Wales

Closing date: 22nd September; interviews likely week commencing 16th October

This role sits within BCT’s Conservation Projects Team and will lead on the implementation of the Swansea Bay’s Stars of the Night project, a component of the Natur Am Byth! Programme. The project is based in the Swansea Bay area, delivering bat survey and monitoring work with a particular focus on lesser horseshoe bats. You will coordinate and work closely with volunteer surveyors, lead training and deliver engagement events for local communities. The post will work closely with partners delivering the Swansea Bay: Coast, Commons and Communities project, delivering action for a range of species across the Swansea Bay area. Find more information about the position and to apply visit the BCT website: https://www.bats.org.uk/the-trust/jobs-careers/nab-project-officer


Swyddog Prosiect Sêr y Nos Bae Abertawe (dan ofal yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ystlumod)

Cyflog: (yn cynnwys Pensiwn ac Yswiriant Gwladol): £25,500 - £27,500 (mae hyn yn cyfateb i £15,300 - £16,500 ar 0.6 FTE). Oriau – swydd ran amser o 22.5 awr yr wythnos ac eithrio awr am ginio ar 0.6 FTE

Lleoliad: gweithio hybrid – gartref a hefyd yn lleoliadau swyddfeydd CNC yn ne Cymru

Dyddiad cau: 22 Medi; cyfweliadau yn debygol yn yr wythnos yn dechrau 16 Hydref 

Mae’r rôl hon yn rhan o Dîm Prosiectau Cadwraeth yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ystlumod (BCT) a bydd yn arwain ar y gwaith o weithredu prosiect Sêr y Nos Bae Abertawe, sy’n rhan o Raglen Natur Am Byth! Mae’r prosiect wedi’i leoli yn ardal Bae Abertawe, ac yn cyflawni gwaith arolygu a monitro ystlumod gyda ffocws penodol ar yr ystlum pedol lleiaf. Byddwch yn cydlynu ac yn gweithio’n agos gyda syrfewyr gwirfoddol, yn arwain hyfforddiant ac yn cyflwyno digwyddiadau ymgysylltu ar gyfer cymunedau lleol. Bydd deiliad y swydd yn gweithio’n agos gyda phartneriaid sy’n cyflwyno’r prosiect Bae Abertawe: Arfordir, Tir Comin a Chymunedau, gan weithredu ar gyfer amrywiaeth o rywogaethau ar draws ardal Bae Abertawe. I ddysgu mwy am y swydd ac i wneud cais, ewch i wefan BCT: https://www.bats.org.uk/the-trust/jobs-careers/nab-project-officer

 

Barbastelle Conservation Officer, Pembrokeshire (Vincent Wildlife Trust hosted)

Salary: (incl. Pension and NI): £25 - £27,500. Fixed term, full-time contract 3 years 7 months

Location: Hybrid working – with a mixture of field work and home-based (Pembrokeshire area) with occasional work at the VWT’s Head Office in Herefordshire

Closing date: 30th September; interviews likely week commencing 16th October

Join the VWT bat team and lead the implementation of the Natur Am Byth! barbastelle bat project in Pembrokeshire. You will deliver widescale conservation through a community science approach by mapping the distribution of barbastelles and locating maternity colonies whilst identifying, promoting, and implementing conservation measures. You will be responsible for coordinating volunteers, collecting and analysing acoustic records, and working with project partners to highlight the barbastelle bat whilst facilitating knowledge transfer to woodland and tree practitioners about the needs of this rare woodland bat. Find more information about this post at: www.vwt.org.uk/vacancies

 

Swyddog Cadwraeth yr Ystlum Du, Sir Benfro (dan ofal Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Vincent)

Cyflog: (yn cynnwys Pensiwn ac Yswiriant Gwladol): £25 - £27,500. Contract cyfnod penodol, llawn amser am 3 blynedd 7 mis

Lleoliad: Gweithio hybrid – gyda chymysgedd o waith maes ac o gartref (ardal Sir Benfro) gyda gwaith achlysurol ym Mhrif Swyddfa Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Vincent yn Swydd Henffordd

Dyddiad cau: 30 Medi; cyfweliadau yn debygol yn yr wythnos yn dechrau 16 Hydref 

Ymunwch â thîm ystlumod Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Vincent (VWT) ac arwain ar weithredu prosiect Natur Am Byth! ar gyfer yr ystlum du yn Sir Benfro. Byddwch yn cyflawni gwaith cadwraeth estynedig drwy ddull gwyddoniaeth gymunedol drwy fapio dosbarthiad yr ystlum du a lleoli cytrefi mamolaeth ar yr un pryd â phennu, hyrwyddo a gweithredu mesurau cadwraeth. Byddwch yn gyfrifol am gydlynu gwirfoddolwyr, casglu a dadansoddi cofnodion acwstig, a gweithio gyda phartneriaid prosiect i dynnu sylw at yr ystlum du ar yr un pryd â hwyluso trosglwyddiad gwybodaeth i ymarferwyr coetir a choed am anghenion yr ystlum coetir prin hwn. Gallwch ddysgu mwy am y swydd hon yn: www.vwt.org.uk/vacancies

 

Lleyn and Anglesey Project Manager (RSPB Cymru hosted)

Salary: (incl. Pension and NI): £30,940 - £33,215. Hours – Full time for 3 years and 5 months

Location: Home-based/RSPB Cymru office in Bangor

Closing date: 24th September; interviews on 18th October

RSPB Cymru is looking for a highly motivated nature conservationist to help secure the long-term future of 17 rare and endangered species occupying wet grassland, lowland heath, softs cliffs, sand dunes and fens in north-west Wales. The target species include curlew, chough, spotted rockrose and large mason bee. Using previous project management experience and strong communication skills, you will galvanise RSPB Cymru staff, project partners, farmers, and local communities to implement a 4-year programme of practical conservation management, ecological monitoring, and people engagement activities. Follow this link to find out more information about the post: Project Manager - Natur am Byth - Lleyn and Anglesey

 

Rheolwr Prosiect Pen Llyn ac Ynys Môn (dan ofal RSPB Cymru)

Cyflog: (yn cynnwys Pensiwn ac Yswiriant Gwladol): £30,940 - £33,215. Oriau – Llawn amser am 3 blynedd a 5 mis

Lleoliad: Gartref / Swyddfa RSPB Cymru ym Mangor

Dyddiad cau: 24 Medi; cyfweliadau ar 18 Hydref

Mae RSPB Cymru yn chwilio am gadwraethwr natur brwd i helpu i sicrhau dyfodol hirdymor 17 o rywogaethau prin ac sydd mewn perygl sy’n byw mewn glaswelltir gwlyb, rhostir isel, clogwyni meddal, twyni tywod a ffeniau yng ngogledd-orllewin Cymru. Ymysg y rhywogaethau targed mae’r gylfinir, y frân goesgoch, y cor-rosyn rhuddfannog a’r saerwenynen. Gan ddefnyddio profiad blaenorol o reoli prosiectau a sgiliau cyfathrebu cryf, byddwch yn ysgogi staff RSPB Cymru, partneriaid y prosiect, ffermwyr a chymunedau lleol i weithredu rhaglen 4 blynedd o waith rheoli cadwraeth ymarferol, monitro ecolegol, a gweithgareddau ymgysylltu â phobl. Dilynwch y ddolen hon i gael rhagor o wybodaeth am y swydd:  Project Manager - Natur am Byth - Lleyn and Anglesey

 

Scarce Yellow Sally Project Officer (Buglife hosted)

Salary: £26,633 (pro rata at 0.4 FTE £10,653)

Hours: Fixed term part-time post, 15 hours per week for 3 years 9 months

Location: Hybrid working – home plus Welsh Dee Trust Office in Llangollen, Denbighshire

Closing date: 25th September; interviews likely week commencing 16th October

The Scarce Yellow Sally Project Officer will work closely with project partners, contractors, local communities, volunteers and landowners, undertaking a range of actions to conserve and raise awareness of this critically endangered stonefly along the River Dee in the Wrexham County Borough area. Co-ordinating species monitoring and community engagement activities are key to this role. To find out more information visit Buglife’s website https://www.buglife.org.uk/job/scarce-yellow-sally-project-officer

 

Swyddog Prosiect Isogenus nubecula (dan ofal Buglife)

Cyflog: (yn cynnwys Pensiwn ac Yswiriant Gwladol): £30,086. Oriau – 0.4 FTE

Lleoliad: Gweithio hybrid – gartref a hefyd yn Swyddfa Ymddiriedolaeth Dyfrdwy Cymru yn Llangollen, Sir Ddinbych

Dyddiad cau: 25 Medi; cyfweliadau yn debygol yn yr wythnos yn dechrau 16 Hydref 

Bydd Swyddog Prosiect Isogenus nubecula yn gweithio’n agos gyda phartneriaid y prosiect, contractwyr, cymunedau lleol, gwirfoddolwyr a thirfeddianwyr, gan ymgymryd ag amrywiaeth o gamau gweithredu i warchod a chodi ymwybyddiaeth o’r pryf cerrig hwn, sydd mewn perygl difrifol, ar hyd Afon Dyfrdwy yn ardal Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Mae cydlynu gwaith monitro rhywogaethau a gweithgareddau ymgysylltu â’r gymuned yn allweddol i’r rôl hon. I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Buglife https://www.buglife.org.uk/job/scarce-yellow-sally-project-officer

<< Back